|
1,2,3,4,5,8,9; 1,6,7,8.
Sancteiddrwydd im' yw'r Oen di-nàm
'Nghyfiawnder, a'm doethineb,
Fy mhrynedigaeth o bob pla,
Fy Nuw i dragwyddoldeb.
'D all Satan, deddf,
na gweddill bai,
I ddamnio rhai crediniol;
Mae gwaed, yr Oen âg uchel lef,
O fewn i'r nefyn eiriol.
O! golch fi beunydd, golch fi'n lân,
Golch fi yn gyfan, Arglwydd;
Fy nwylaw, calon, pen, a'm traed,
Golch fi â'th waed yn ebrwydd.
Bedyddia fi â'r Ysbryd Glân,
Fel tân pŵerus nerthol;
Caiff ysbryd barn a llosgfa fod
Ar bechod yn wastadol.
Gwasgara weddill pechod câs,
Sêl fi â'th râs yn drigfan,
Yn berffaith hardd, yn deml wiw,
Adeilad Duw Ei Hunan.
Ces weld mai Ef yw 'Mrenin da
Fy Mhroffwyd a'm Hoffeiriad,
Fy Nerth a'm Trysor mawr
a'm Tŵr,
F'Eiriolwr fry a'm Ceidwad.
Ar ochor f'enaid tlawd y bydd
Ar fore dydd marwlaeth;
Yn ŵyneb angu mi wnaf ble,
Gan wieddi "Iechydwriaeth."
O fewn i'r wlad ty draw i'r bedd
Caf weled
gwedd ei ŵyneb:
Ac yn ei fynwes llechu caf
Hyd eithaf tragwyddoldeb.
Fe gasgla'm llwch o'r bedd i'r làn,
Yn gyfan ac yn gryno;
Câf gorph fel fy Anwylyd gwiw,
O hyfryd liw'n disgleirio.
- - - - -
1,(2),3,4,5.
Sancteiddrwydd im' yw'r Oen dinam,
'Nghyfiawnder a'm doethineb;
Fy mhrynedigaeth o bob pla,
Fy Nuw i drag'wyddoldeb.
O'i ystlys bur yn cwympo i lawr,
Yn afon fawr lifeiriol,
Hedd a maddeuant sy'n ddidrai,
Byth i barhau'n dragwyddol.
Dy wisg dy hun, Gyfiawnder hael,
Sydd raid im' gael yn mlaenaf;
Nid oes ond ofni dan fy mron,
Nes caffwyf hon am danaf.
Rhaid imi gael pob gras, pob dawn,
O'th drysor llawn dy hunan;
Ac oni chaf, fy enaid prudd
A gyll y dydd yn fuan.
Gwyn fyd y rhai
dilëaist eu bai,
Eu pechod a'u hanwiredd;
Gan roi iddynt nerth,
er cnawd a byd,
I bara hyd y diwedd.
William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: Achub O Dduw fy enaid caeth Clodfored bawb ein Harglwydd Dduw Bedyddia fi â'r Ysbryd Glân Euogrwydd pechod oedd yn bwn Gwyn fyd y rhai dilëaist eu bai Mi wna'm gorphwysfa dawel byth O Fugail Israel dwg fi 'mlaen O golch fi beunydd golch fi'n lân O Iesu fy Ngwaredwr llawn O'i ystlys bur yn cwympo i lawr Rhaid i mi gael pob gras pob dawn Ti'n Feddyg mawr a Ffynnon gaf |
Holiness to me is the innocent Lamb
My righteousness, and my wisdom,
My redemption from every plague,
My God for eternity.
Neither Satan, law,
nor the remainder of sin, can
Condemn believing ones;
The blood of the Lamb is with a loud cry,
Within heaven interceding.
Oh wash me daily, wash me clean,
Wash me completely, Lord;
My hands, heart, head, and my feet,
Wash me with thy blood at urgently!
Baptise me with thy Holy Spirit,
Like powerful, strong fire;
A spirit of judgment and burning may be
Upon sin continually.
Scatter the remainder of detestable sin,
Seal me with thy grace as an abode,
Perfectly beautiful, a worthy temple,
A building of God Himself!
I got to see that He is my good King,
My Prophet and my Priest,
My Strength and my great Treasure
and my Tower,
My Intercessor above and my Saviour.
On the side of my pure soul be
On the morn of the day of death;
In the face of death I shall make a place,
While shouting "Salvation."
Within the land beyond the grave
I shall get to see
the countenance of his face:
And in his bosom hide I shall do
For the extreme length of eternity.
He shall gather my dust up from the grave,
Completely and compact;
I shall get a body like my worthy Lord,
Of delightful colour shining.
- - - - -
Holiness to me is the innocent Lamb,
My righteousness and my wisdom;
My redemption from every plague,
My God for eternity.
From his pure side falling down,
As a great flowing river,
Peace and forgiveness that are unebbing,
Forever to endure eternally.
Thy own clothing, generous Righteousness,
Is what I need to get before me;
There is only fear under my breast,
Until I get this about me.
I need to get every grace, every gift,
From thy own full treasure;
And unless I get it, my sad soul
Shall lose the day soon.
Blessed are those
whose sin thou didst delete,
Their sin and their untruth;
While giving them strength,
despite flesh and world,
To endure until the end.
tr. 2015,16 Richard B Gillion
|
|